Rhwydwaith o Gristnogion sy’n gweddïo dros Gymru ac sy’n prysur ehangu yw Pray4Wales ac sy’n cael ei arwain gan Ffald-y-Brenin. Defnyddiwn y ddwy iaith sydd yng Nghymru; Cymraeg a Saesneg.
Mae gennym ddau grŵp; y rhai sydd o fewn i Gymru, a’r rhai o genhedloedd eraill sy’n gweddïo dros Gymru.
Credwn fod y symudiadau sydd ar ddod oddi wrth Dduw, nid ar gyfer Cymru yn unig, ond yn rhywbeth a fydd yn gweld bendithion rif y gwlith yn disgyn ar nifer o wledydd eraill yn ogystal.
Disgwyliwn y bydd Duw yn danfon pobl allan o Gymru i’r cenhedloedd fel cludwyr - presenoldeb eneiniog, nerthol a fydd yn ffaglau dros Iesu a fydd yn gosod trefi/ardaloedd/gwledydd ar dân ar Ei ran.